Wales will be taking on France on Sunday 10 March at Principality Stadium.

DFP – MPU – Promo – Centre

With the kick-off taking place at 3pm – there will be a full city centre road closure from 11am until 7pm to ensure all ticket holders can get into and out of the stadium safely.

The M4 motorway is expected to be very busy – please plan ahead – and avoid the congestion in Cardiff by using the park & ride at the former Toy’s R Us site car park in the Sports Village.

Gates open at 12.45pm, those attending the rugby match are strongly advised to plan their journey and get in early. Please pay attention to the prohibited items listed at principalitystadium.wales, in particular the bag policy (no large bags permitted) before travelling into the city.

Road closures

From 7am, Scott Road and Park Street will be closed because of the need to prepare Gate 5 and protect queuing fans.

The following roads will be closed as part of the full city centre road closure which will take place at 11am until 7pm.

  • Kingsway from its junction with North Road to its junction with Duke Street.
  • Cowbridge Road East from its junction with Cathedral Road to its junction with Westgate Street.
  • Tudor Street from its junction with Clare Road to its junction with Wood Street (access for residents and traders will be permitted via Fitzhammon Embankment.)
  • Plantagenet Street and Beauchamp Street from their junctions with Despenser Place to their junctions with Tudor Street (access for residents and traders will be permitted.)
  • The following roads will be closed in their entirety: Duke Street, Castle St, High Street, St Mary Street, Caroline Street, Wood Street, Central Square, Westgate Street, Quay Street, Guildhall Place, Golate, Park Street, Havelock Street and Scott Road.
  • Station Terrace and Guildford Street from the junction with Newport Road to the junction with Churchill Way will be access for buses only during the times of the road closures. This is to ensure that there is reliable access for buses to the satellite points in Churchill Way.
  • Additionally, Penarth Road will be closed 30 minutes before the game finishes and up to hour after the final whistle on safety grounds for train passengers arriving and departing from the train station.

Additions:
Civic Centre: Access to part of the Civic Centre will be controlled throughout the day, with access allowed only for event parking, limited commuter parking, loading and access to private car parks.

Roads affected include King Edward VII Avenue, Museum Avenue, City Hall Road, College Road and Gorsedd Gardens Road.

Trains

Transport for Wales will be providing additional capacity where possible on routes in/out of Cardiff on Sunday 10 March but services are expected to be very busy so please allow plenty of time for your journey.

Post-event queues for mainline rail services will be on Central Square and queues for Valleys services will be to the rear of the station. Cardiff Queen Street will close at 15:30 except for accessible access and passengers that wish to travel to Cardiff Bay

Visit www.tfw.wales or the new TfW app for the latest travel information.

If you have any issues on the railway, please speak to a conductor or, for more serious matters, you can text the British Transport Police on 61016 or call 0800 40 50 40. In an emergency, always call 999.

Park & Ride facilities

The event park & ride facilities will be at Toy’s R Us in the Sports Village, Cardiff Bay – CF11 0JS.

The drop of point in the city centre is Callaghan Square.

The park & ride site will open shortly before 9am, with the first bus leaving at 9am. The last bus from the city centre will be at 8.30pm with the site closing soon after.

The cost is £12. Cash only.

Civic Centre Event Day Parking (Cars and Coaches)

Getting there: Exit Junction 32 of the M4, head south on the A470 towards the city centre and follow signage to the civic centre.

Cost: £20 payable on the day for cars and £30 for coaches – card payments are also now available.

Parking time: The car park will open at 8am and closes at 12 Midnight.

Event Day Parking at Sophia Gardens

Sophia Gardens (cars)

(Approximately, 0.5 mile walk to the Principality Stadium, Gate 2).

Sophia Gardens Event Day Parking

Getting there: Exit junction 32 off the M4

Cost: £20 for cars and £30 for coaches – card payments are now available.

Parking time: Car park opens at 8.00am and closes at 12 midnight.

Please note: Sophia Gardens car park will be staffed until 7.00pm all vehicles are left on site at the owner’s risk. Cardiff Council will not be held responsible for any theft or damage to motor vehicles or personal possessions. Any vehicles left in the car park after closing time will be fined.

Bus

Local buses:

Bus services will be diverted while the city centre road closures are in place

Please visit the relevant bus operator’s website for more information about your specific bus routes.

For Stagecoach services, please visit: Welcome to Stagecoach (stagecoachbus.com)

For Cardiff Bus services, please visit: https://www.cardiffbus.com/principality-stadium

For NAT services, please visit: https://www.natgroup.co.uk/

National Express:

National Express coaches will use Sophia Gardens as usual.

Can you cycle or walk?

Those who live locally in Cardiff may want to travel by bicycle or walk. Research shows us that 52% of car trips made in the Welsh capital are less than 5km. This is a distance that can be comfortably cycled in 20 minutes.

We also know that 28% of Cardiff residents who currently do not cycle would like to do so.

When the roads are congested this makes cycling an even more attractive option as travel by bicycle would be quicker than a car during rush hours or during big events.

Shopping Parking

City centre car parks are also available: North Road Car Parks, St David’s Shopping Centre, John Lewis, Capitol Shopping Centre, and NCP (Adam Street, Dumfries Place and Greyfriars Road.)

Disabled parking

Disabled drivers are advised to use Sophia Gardens. Disabled parking is also available at various private car parks.

Please check individual websites for availability.

Taxis

St Mary Street taxi rank (outside the House of Fraser building) will close at 11am and will re-open at 7pm.

 

Cyngor Teithio diwrnod gêm Cymru yn erbyn Ffrainc ar 10 Mawrth yng Nghaerdydd

Bydd Cymru’n herio Ffrainc ddydd Sul 10 Mawrth yn Stadiwm Principality.

Gyda’r gic gyntaf am 3pm – bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau o 11pm tan 7pm i sicrhau bod pob un sydd â thocyn yn gallu mynd i mewn ac allan o’r stadiwm yn ddiogel.

Mae disgwyl i draffordd yr M4 fod yn brysur iawn – cynlluniwch ymlaen llaw ac osgoi’r tagfeydd yng Nghaerdydd drwy ddefnyddio’r cyfleusterau parcio a theithio ym maes parcio hen safle Toys R Us yn y Pentref Chwaraeon.

Bydd y gatiau’n agor am 12.45pm, cynghorir y rhai sy’n mynychu’r gêm rygbi yn gryf i gynllunio eu taith a mynd i mewn yn gynnar. Darllenwch y rhestr o eitemau gwaharddedig yn principalitystadium.cymru, yn arbennig y polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i’r ddinas.

Cau ffyrdd

Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar o 7am i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr a fydd yn ciwio.

Caiff y ffyrdd canlynol eu cau fel rhan o batrwm cau ffyrdd llawn canol y ddinas am 11am tan 7pm

  • Ffordd y Brenin o’r gyffordd â Heol y Gogledd i’r gyffordd â Heol y Dug.
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Gadeirlan i’r gyffordd â Heol y Porth.
  • Stryd Tudor o’r gyffordd â Heol Clare i’r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Arglawdd Fitzhammon).
  • Plantagenet Street a Beauchamp Street o’r cyffyrdd â Despenser Place i’r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
  • Bydd y ffyrdd canlynol ar gau’n gyfan gwbl: Heol y Dug, Stryd y Castell, Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, Y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.
  • Bydd mynediad i fysus yn unig i Rodfa’r Orsaf a Stryd Guildford o’r gyffordd â Heol Casnewydd at y gyffordd â Ffordd Churchill yn ystod yr amseroedd cau ffyrdd. Y rheswm dros hyn yw i sicrhau mynediad dibynadwy i fysus at y mannau lloeren yn Ffordd Churchill.
  • Yn ogystal, bydd Heol Penarth ar gau 30 munud cyn i’r gêm orffen ac am hyd at awr wedi’r chwiban olaf am resymau diogelwch i deithwyr trên sy’n cyrraedd a gadael yr orsaf drenau.

Ychwanegiadau:
Y Ganolfan Ddinesig: Rheolir mynediad i ran o’r Ganolfan Ddinesig drwy’r dydd. Caniateir mynediad yn unig i barcio ar gyfer y digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad at feysydd parcio preifat.

Mae’r ffyrdd yr effeithir arnynt yn cynnwys Rhodfa’r Brenin Edward VII, Rhodfa’r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi’r Orsedd.

Trenau

Bydd Trafnidiaeth Cymru yn ychwanegu capasiti lle y bo modd i gyrraedd/adael Caerdydd ddydd Sul 10 Mawrth ond y disgwyl yw y bydd gwasanaethau’n brysur iawn felly teithiwch yn gynnar.

Bydd ciwiau ar ôl y digwyddiad ar gyfer gwasanaethau’r brif lein yn y Sgwâr Canolog a chiwiau ar gyfer gwasanaethau’r Cymoedd y tu cefn i’r orsaf. Bydd Heol y Frenhines Caerdydd yn cau am 15:30 heblaw am fynediad hygyrch a theithwyr sy’n dymuno teithio i Fae Caerdydd.

Ewch i tfw.cymru neu’r ap Trafnidiaeth Cymru newydd i gael y wybodaeth ddiweddaraf am deithio.

Os bydd gennych unrhyw broblemau ar y rheilffordd, siaradwch â swyddog tocynnau, neu am faterion mwy difrifol gallwch anfon neges destun at Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 . Ffoniwch 999 mewn argyfwng bob tro.

Cyfleusterau Parcio a Theithio

Bydd y cyfleusterau parcio a theithio ar gyfer y digwyddiad yn Toys R Us yn y Pentref Chwaraeon, Bae Caerdydd – CF11 0JS.

Bydd y pwynt gollwng yng nghanol y ddinas yn Sgwâr Callaghan.

Bydd y safle parcio a theithio yn agor ychydig cyn 9am, a bydd y bws cyntaf yn gadael am 9am. Bydd y bws olaf o ganol y ddinas am 8.30pm gyda’r safle yn cau’n fuan wedi hynny.

Y gost yw £12. Arian parod yn unig.

Parcio yng Nghanol y Ddinas ar Ddiwrnod Digwyddiad (Ceir a Bysus)

Cyrraedd yno: Gadewch wrth Gyffordd 32 yr M4, ewch tua’r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i’r ganolfan ddinesig.

Cost: £20 yn daladwy ar y diwrnod am gar a £30 am fws – mae taliadau cerdyn hefyd ar gael.

Amserau parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.

Parcio ar Ddiwrnod Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Gerddi Sophia (ceir)

(Tua 0.5 milltir o gerdded i Stadiwm Principality, Gât 2).

Parcio ar gyfer Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Cyrraedd yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.

Cost: £20 ar gyfer ceir a £30 i fysus – mae taliadau cerdyn ar gael nawr.

Amserau parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8.00am ac yn cau am hanner nos.

Sylwer: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 7.00pm. Gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy’n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.

Bws

Bysus lleol:

Caiff gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau

Ewch i wefan y cwmni bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.

Ar gyfer gwasanaethau Stagecoach, ewch i: Croeso i Stagecoach (stagecoachbus.com)

Ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i: https://www.cardiffbus.com/principality-stadium

Am ragor o wybodaeth am wasanaethau NAT, ewch i: https://www.natgroup.co.uk/

National Express:

Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.

Allwch chi feicio neu gerdded?

Gall y rheini sy’n byw yng Nghaerdydd fod eisiau beicio neu gerdded. Mae ymchwil yn dangos bod 52% o’r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn llai na 5km o hyd. Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio’n braf mewn 20 munud.

Gwyddom hefyd yr hoffai 28% o drigolion Caerdydd nad ydyn nhw’n seiclo ar hyn o bryd roi cynnig arni.

Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol fyth oherwydd byddai teithio ar feic yn gynt nag yn y car yn ystod oriau brig neu ddigwyddiadau mawr.

Parcio i Siopwyr

Mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion).

Parcio i Bobl Anabl

Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol.

Gweler argaeledd ar wefannau unigol.

Tacsis

Bydd safle tacsis Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) yn cau am 11am ac yn ailagor am 7pm.