
‘Now in a Minute’ yn lansio siopau cyntaf Cymru heb diliau yn Stadiwm Principality.
14th August 2026, 12:00 pm By Anna Chapman
Mae’r cynllun newydd ‘Now in a Minute’ wedi’i gynllunio i gyflymu’r broses o brynu bwyd a diod, gan helpu cefnogwyr i dreulio llai o amser mewn ciwiau a mwy o amser yn mwynhau’r cyffro’n y Stadiwm.
Os ydych chi erioed wedi colli eiliad fawr o’r cyffro ar y cae wrth giwio am fwyd neu ddiod, mae gan Stadiwm Principality newyddion da.
Mae’r Stadiwm eiconig yng Nghaerdydd yn lansio siopau cyntaf Cymru heb diliau, gan gynnig ffordd gyflymach a mwy cyfleus i gefnogwyr gael bwyd a diod ar ddiwrnodau digwyddiadau.
Mae’r gwasanaeth wedi ei alw’n ‘Now in a Minute’ ar ôl yr ymadrodd Cymreig poblogaidd, ac mae’r siopau newydd yn cyfuno ychydig o hiwmor Cymreig â’r dechnoleg ddiweddaraf, gan helpu cefnogwyr i ddychwelyd at y cyffro o fewn ychydig funudau’n unig.
Gweithredir y datblygiad yma mewn partneriaeth â’r partner lletygarwch Aramark UK a bydd y siopau’n agor am y tro cyntaf yng Nghwpan Tarian Gymunedol yr FA ar 16 Awst, pan fydd mwy na 70,000 o gefnogwyr yn ymweld â Stadiwm Cenedlaethol Cymru. Mae’r lansiad yn gam arall yn y broses o wella profiad ymwelwyr a chefnogwyr drwy weithredu datblygiadau newydd ym maes lletygarwch a manwerthu.
I nodi’r lansiad, roedd cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru, Scott Quinnell, ymhlith y cyntaf i roi’r siopau newydd ar brawf, gan roi cynnig ar y dechnoleg arloesol cyn i’r cyhoedd gael y cyfle i’w defnyddio.
Gan ddefnyddio technoleg Just Walk Out Amazon, y cyfan sydd angen i gwsmeriaid ei wneud yw tapio eu cerdyn talu wrth fynd i mewn i’r siopau, dewis yr hyn maen nhw ei eisiau a gadael. Mae synwyryddion yn adnabod yr eitemau sydd wedi cael eu dewis yn awtomatig ac yn prosesu’r taliad, gan ddileu’r angen i giwio.
Bydd y siopau’n cynnig detholiad o ffefrynnau poblogaidd ar ddiwrnodau gemau, gan gynnwys melysion, pasteiod, diodydd meddal a diodydd alcoholig, gan helpu cefnogwyr i dreulio llai o amser yn ciwio a mwy o amser yn mwynhau’r digwyddiad ei hun. Bydd y cynnyrch fydd ar gael yn y siopau’n cael eu haddasu ar gyfer gwahanol ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn.
Mae cyflwyno’r siopau newydd yn gam cadarnhaol arall mewn cyfres o fuddsoddiadau diweddar yn y Stadiwm, sydd eisoes wedi gweld mwy nag 20 o eBars hunanwasanaeth yn cael eu gosod yno. Gyda’i gilydd, mae’r datblygiadau hyn yn helpu i foderneiddio’r cynteddau, lleihau ciwiau a gwella’r gwasanaeth i gefnogwyr ar ddiwrnodau digwyddiadau.
Dywedodd Tomos Grace, Prif Swyddog Masnachol Undeb Rygbi Cymru: “Rydym wastad yn chwilio am ffyrdd newydd ac arloesol o wella profiad y miliynau o gefnogwyr sy’n ymweld â Stadiwm Principality bob blwyddyn. Mae cyflwyno’r siopau ‘Now in a Minute’ yn cynnig ffordd gyflymach a mwy cyfleus i gefnogwyr gael eu bwyd a’u diod ar ddiwrnodau digwyddiadau.”
Ychwanegodd Tom Ford, Is-lywydd Marchnata, Strategaeth a Choginio Aramark UK: “Pan lansiwyd ein partneriaeth â Stadiwm Principality ac Undeb Rygbi Cymru, buom yn siarad am ein huchelgais i osod ein gwasanaeth ar gyfer cefnogwyr ac ymwelwyr wrth galon popeth a wnawn. Mae lansio ‘Now in a Minute’ yn gam pwysig arall ar y daith honno, gan gyfuno technoleg arloesol â lletygarwch gwych i wneud profiad diwrnod gêm hyd yn oed yn well i bob ymwelydd.
“Drwy ei gwneud hi’n gyflymach ac yn haws i gefnogwyr gael bwyd a diod, gallwn helpu i leihau ciwiau gan alluogi ein timau i ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth gwych a chreu profiadau cofiadwy i westeion ledled y Stadiwm. Rydym yn falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni gyda’n gilydd hyd yma ac yn gyffrous am yr hyn sydd eto i ddod.”
Mae’r siopau ‘Now in a Minute’ newydd wedi’u lleoli ar Lefel 6 cyntedd y Stadiwm a byddant ar gael i gefnogwyr sy’n mynychu’r Darian Gymunedol a digwyddiadau yn Stadiwm Principality yn y dyfodol wedi hynny hefyd.